Rhowch gyfle i Gymuned weithio ar eich rhan chi hefyd...
Rydym yn ymgyrchu dros y Fro oherwydd bod neb arall yn ei wneud...
Aelodaeth. Dyna'r peth pwysicaf i unrhyw fudiad, a'r gwirionedd ydy na fydd modd i Gymuned wneud unrhyw waith y tu allan i'r Fro Gymraeg hyd nes i Gymry sy'n byw y tu allan i'r Fro ymaelodi.
Unwaith bod digon o aelodau mewn ardal benodol, mae modd i ni gynyddu ein presenoldeb a'n gwaith yn yr ardal honno - trwy ddulliau syml i gychwyn, megis sticeri ac arwyddion i ddenu mwy o aelodau, ond wedyn trwy gynnig cymorth uniongyrchol i gychwyn ymddiriedolaethau tir cymunedol neu rwydweithiau busnes lleol.
Gwahaniaeth all fod yn dyngedfennol iawn...
Fel y gwelwch ar yr ochr Saesneg i'r wefan hon, mae Cymuned bellach wedi paratoi neges cryf i'r Cymry di-Gymraeg, neges sy'n esbonio pam dylen nhw ymaelodi â'r mudiad. Gyda'r dulliau newydd sydd gennon ni i hyrwyddo'r mudiad yn rhad ac yn effeithiol, byddai cnewyllyn bach o Gymry brwydfrydig mewn ardaloedd y tu allan i'r Fro yn medru denu degau, neu gannoedd, o Gymry di-Gymraeg at y mudiad.
Pe bai modd i Gymry gweithgar ymdrechu ochr wrth ochr â Chymry di-Gymraeg diffuant ar faterion lleol, byddai'r effaith ar ran agweddau tuag at yr iaith yn medru bod yn sylweddol iawn.
Dychmygwch yr effaith pe bai aelodaeth Cymuned yn tyfu'n gyflym yn yr ardaloedd di-Gymraeg... byddai'n anfon neges cryf iawn at Lywodraeth y Cynulliad bod cefnogaeth go-iawn i'r iaith (fel mae arolwg ar ôl arolwg yn dangos i fod yn wir).
Cewch ddysgu mwy am ein syniadau ar gyfer y sefyllfa tai trwy glicio yn fan hyn, ac am ein syniadau ar gyfer economi lleol trwy glicio yn fan hyn.
Cewch dderbyn e-bost wythnosol gyda'r newyddion diweddaraf i gyd trwy glicio yn fan hyn, ond y peth pwysicaf oll ydy aelodaeth.
Cliciwch yn fan hyn i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith trwy gyfrannu.
Dw i isio gwneud gwahaniaeth! (cliciwch yn fan hyn i ymaelodi)
Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR -- cymuned[at]cymuned.org -- 01758-612712
www.cymuned.org