tic y Fro Gymraeg

Swyddi gwell i bobl leol

Economi roedd yn tyfu'n gynt na nunlle arall...

  • Dyna beth oedd gan Cymru yn flynyddoedd cynnar y ganrif diwethaf.

  • Ond aeth yr elw bron i gyd allan o'r wlad,

  • ac erbyn yr 80au ac ymosodiadau Thatcher ar y pyllau glo, roedd hi'n ben set arnom ni.

A chyda'r diwydiannau mawrion wedi mynd (glo yn y De, llechi yn y Gogledd), rydym wedi dioddef llywodraeth ar ôl llywodraeth sydd yn credu bod nifer swyddi yn bwysicach na'u safon.

Croeso i'r ganolfan alw...

neu fuasai well ganddoch chi lwytho shilffoedd?

Dyna ydy beth mae'r diwylliant o lwgrwobrwyon (ddrwg gennon ni, 'insentifs') llywodraethaol ar gyfer cwmnïau rhyngwladol wedi ennill i ni. Meddwl tymor byr, a swyddi tymor byr. Edrychwch ar yr effaith bod archfarchnadoedd anferth megis Tesco ac Asda yn ei gael - maen nhw'n sathru ar unrhyw gystadleuaeth leol, maen nhw'n gorfodi cynhyrchwyr lleol i'w cyflenwi hwythau yn unig, maen nhw'n anfon yr elw y tu allan o'r ardal, ac maen nhw'n dewis cwmnïau cyflenwi mawr o'r tu allan i'r ardal.

Mae astudiaethau yn America wedi dangos bod busnesau lleol yn cadw oddeutu 60% o'r elw yn yr economi lleol, tra bod Wal-Mart yn cadw dim ond 14% pitw!

A beth sy'n digwydd pan mae cwmni mawr yn cyrraedd, yn cael gwaered o gystadleuwyr lleol, yn cyflogi ar lefel cyflog is (ag eithrio yr uwch rheolwyr, sydd bron byth yn lleol) ac wedyn yn penderfynu, unwaith bod yr 'insentifs' wedi mynd, bod tactegau busnes yn golygu y dylen nhw adael?

Pryd hynny cewch golli swyddi ar raddfa sydd yn torri calon cymunedau.

Pa ddewis arall sydd gennon ni?

Rhoi'r 'lleol' yn ôl yn yr economi lleol...

Mae Cymuned yn cydnabod pwysigrwydd busnesau bychain, lleol. Rydym yn gweithio tuag at ffurfio rhwydwaith busnes lleol ym Mhwllheli ar hyn o bryd, i wrthsefyll sgil-effeithiau niweidiol dyfodiad Asda i'r tref. Unwaith rydych yn dechrau cydweithio, yn dechrau trefnu, mae modd newid pethau - sticeri ar gyfer busnesau sy'n rhan o'r rhwydwaith, botymau a disgowntïau ar gyfer siopwyr, bwletin e-bost am ddim gyda newyddion am y bargeinion diweddaraf, gwefannau hyrwyddo am ddim - mae modd ei gwneud hi.

Rydym hefyd eisiau gweld mwy o fuddsoddiad mewn meicro-fusnesau ac entrepreneuriaid lleol, a defnydd mwy greadigol o'r We ar gyfer busnesau bychain Cymru - po fwyaf o fusnesau gwahanol sydd yn rhan o economi lleol, cryfaf yw'r economi pan daw'r adegau caletach. Meddyliwch amdani fel hyn: torrwch goes dyn i ffwrdd, ac mae ganddo ambell problem. Torrwch un o goesau neidr gantroed i ffwrdd, ac efallai na fydd o sylwi hyd yn oed.

Sut fedrwch chi helpu?

Trwy ddod yn aelod Cymuned...

Cewch danysgrifio i'n e-bost wythnosol am ddim i gychwyn, ac wedyn mynd ymlaen i ddod yn aelod llawn, er mwyn derbyn ein cylchlythyr misol trwy'r post pob mis. Bydd hynny'n sicrhau eich bod yn gwybod am bob dim sy'n mynd ymlaen, a bydd yn helpu ni i ddal ati i weithio gyda busnesau lleol trwy'r wlad gyfan.

Pe hoffech fynd cam ymhellach, cysylltwch gyda ni, a byddwn yn rhoi cyngor a chefnogaeth uniongyrchol i chi gychwyn rhwydwaith busnes lleol yn eich cymuned eich hunan. Byddwn yn darparu deunydd, gan gynnwys gwefannau, a byddwn yn rhoi cyflwyniadau i gyfarfodydd preifat neu gyhoeddus.

Trwy gydweithio, cawn adeiladau economi lleol cryfach a thecach.

Cliciwch yma i roi cychwyn arni.

tic y Fro Gymraeg

Dim yn siwr eto?
Tanysgrifiwch i'n e-bost wythnosol am ddim er mwyn gweld pa waith rydym yn ei wneud.
Enw cyntaf:
      E-bost:
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn anfon ein e-bost wythnosol atoch - ni fyddwn BYTH yn ei ddefnyddio at UNRHYW ddiben arall.

Dw i isio chwarae rhan! (cliciwch yn fan hyn i ymaelodi)

Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR -- cymuned[at]cymuned.org -- 01758-612712
www.cymuned.org