Yn 2001, dwedodd Cymuned bod argyfwng tai.
Pa mor bwysig ydy eich cymuned i chi?
Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol
Rydym yn medru dangos i chi sut mae gosod a rhedeg Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol, lle mae'r gymuned yn cymryd perchnogaeth o'i hadnoddau ei hunan, ac yn eu defnyddio er mwyn codi tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol. Mae ymddiriedolaethau tir cymunedol llwyddiannus hefyd yn medru dewis buddsoddi mewn cyfleusterau lleol megis canolfannau hamdden, ac i gefnogi busnesau lleol hen a newydd - maen nhw hefyd yn dod â mwy o benderfyniadau allweddol yn ôl i le dylen nhw fod: yn nwylo'r pobl.
Newid Gwleidyddol
Dydy'r sustem cynllunio presennol ddim yn gweithio. Tynnu llinell rownd cymuned, a gadael i ddatblygwyr godi beth bynnag bydd y farchnad yn caniatau? Os dych chi eisiau cefnogaeth y Llywodraeth i dai fforddiadwy, mae'n rhaid i chi brofi bod yna angen lleol!
Ben i waered ydy hynny. Dylai tai newydd gael eu codi dim ond os ydy pobl leol eu hangen - mae'r Parc Cenedlaethol yn Swydd Efrog wedi gweithio hynny allan, ac mae'n hen bryd i'n cynghorau sir fynd i lawr yr un llwybr.
Trwy ddod yn aelod Cymuned.
Am bris peint unwaith y mis, cewch helpu ni ymledu'r gair am Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, a chewch helpu ni lobïo Llywodraeth ar gyfer y newidiadau angenrheidiol.
Os ydych yn awyddus i ddod yn rhan o'r gwaith, rydym yn medru rhoi cefnogaeth ymarferol wyneb yn wyneb i godi ymddiriedolaeth tir cymunedol i'ch cymuned chi. Fesul cam, byddwch yn helpu rhoi penderfyniadau lleol yn ôl mewn dwylo lleol.
Cliciwch yma i gychwyn gwneud gwahaniaeth.
Tanysgrifiwch i'n
e-bost wythnosol am ddim er mwyn gweld pa waith rydym yn ei wneud.
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn anfon ein e-bost wythnosol
atoch - ni fyddwn BYTH yn ei ddefnyddio at UNRHYW ddiben arall.
Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR -- cymuned[at]cymuned.org -- 01758-612712
www.cymuned.org